Mae ein canolfan hyfryd wedi’i lleoli yng nghanol y Barri. Gan mai ni yw’r lleoliad aml-gelfyddyd mwyaf ym Mro Morgannwg, credwn ein bod yn fwy na theatr â sinema ddigidol 4K, rydym yn ganolfan hanfodol sy’n agored i bawb yn ein cymuned leol ac i’r rhai y tu hwnt.
Fe’n hadnabyddir fel lle cyfeillgar a hygyrch, lle i ddod i weld sioeau a ffilmiau, i archwilio treftadaeth leol, i fod yn greadigol, i gael profiad, i gymryd rhan, i gynhyrchu, i ddathlu, i weithio, ac yn bwysicaf oll, i ymlacio a mwynhau.
Mae ein canolfan yn cynnwys – theatr fawr â lle i 856 o bobl eistedd, (1300 ar gyfer cyngerdd sefyll), dwy ystafell aml-ddiben fawr sydd â lle i gynulleidfaoedd o 200 a 100, ac ystafelloedd llai, ystafelloedd cymdeithasol a bariau / caffi sy’n ategu ein rhaglen a’n gweithgarwch llogi.
Rydym ni’n cyflwyno cwmnïau theatr teithio proffesiynol, cerddoriaeth fyw, sinema, dawns, a chomedi ac yn cynnal llawer o ddigwyddiadau theatr amatur a chymunedol. Ochr yn ochr â’n rhaglen adloniant, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn cynnig rhaglen logi a chymunedol amrywiol a difyr.
All of this helps us achieve our mission to be THE venue for arts, entertainment and creativity in the Vale of Glamorgan.
Mae cefnogaeth barhaus ein harianwyr, y gymuned leol a’r rhai o ymhellach i ffwrdd yn hanfodol i’n datblygiad a’n llwyddiant parhaus.