Please select your language:
Cymraeg

Amdanom ni

entrance 3

Croeso i’r Memo. Byddem wrth ein boddau yn dweud popeth wrthych am yr hyn sy’n digwydd yma…

Mae ein canolfan hyfryd wedi’i lleoli yng nghanol y Barri. Gan mai ni yw’r lleoliad aml-gelfyddyd mwyaf ym Mro Morgannwg, credwn ein bod yn fwy na theatr â sinema ddigidol 4K, rydym yn ganolfan hanfodol sy’n agored i bawb yn ein cymuned leol ac i’r rhai y tu hwnt.

Fe’n hadnabyddir fel lle cyfeillgar a hygyrch, lle i ddod i weld sioeau a ffilmiau, i archwilio treftadaeth leol, i fod yn greadigol, i gael profiad, i gymryd rhan, i gynhyrchu, i ddathlu, i weithio, ac yn bwysicaf oll, i ymlacio a mwynhau.

Mae ein canolfan yn cynnwys – theatr fawr â lle i 856 o bobl eistedd, (1300 ar gyfer cyngerdd sefyll), dwy ystafell aml-ddiben fawr sydd â lle i gynulleidfaoedd o 200 a 100, ac ystafelloedd llai, ystafelloedd cymdeithasol a bariau / caffi sy’n ategu ein rhaglen a’n gweithgarwch llogi.

Rydym ni’n cyflwyno cwmnïau theatr teithio proffesiynol, cerddoriaeth fyw, sinema, dawns, a chomedi ac yn cynnal llawer o ddigwyddiadau theatr amatur a chymunedol. Ochr yn ochr â’n rhaglen adloniant, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn cynnig rhaglen logi a chymunedol amrywiol a difyr.

Dyma ychydig o ffeithiau!

  • Rydym yn Sefydliad Elusennol Corfforedig Cofrestredig annibynnol
  • Defnyddir yr holl incwm yr ydym yn ei ennill i gefnogi’r ganolfan a’i rhaglen helaeth
  • Rydym yn croesawu dros 100,000 o ymwelwyr i’r adeilad bob blwyddyn
  • Rydym yn cynhyrchu bron i 65% o’n hincwm o’r hyn yr ydym yn ei werthu drwy’r swyddfa docynnau a’r bar, gwaith codi arian a’n gwasanaeth llogi adnoddau a chyfleusterau
  • Rydym yn ysbrydoli’r gymuned leol i fod yn greadigol ac mae dros 20,000 o blant yn cymryd rhan yn ein sioeau a’n prosiectau bob blwyddyn

Mae hyn i gyd yn ein helpu i gyrraedd ein nod o fod Y lleoliad ar gyfer celfyddydau, adloniant a chreadigrwydd yn y Fro.

Mae cefnogaeth barhaus ein harianwyr, y gymuned leol a’r rhai o ymhellach i ffwrdd yn hanfodol i’n datblygiad a’n llwyddiant parhaus.

Cyfrannwch

cyWelsh
Left Menu Icon