Dod â chynhyrchiad atom ni
Rydym yn hyrwyddo rhaglen flynyddol o ddigwyddiadau byw a sinema ac yn croesawu cynyrchiadau teithio.
Mae ein rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang gan gynnwys cerddoriaeth, comedi, drama, dawns, opera a sioeau cerdd. Yn gyffredinol, rydym yn trefnu ein digwyddiadau byw o leiaf 9-12 mis ymlaen llaw i ganiatáu digon o amser i hysbysebu’r sioe yn briodol.
If you are interested in bringing a professional touring production to the Memo, please contact: enquiries@memoartscentre.co.uk
Creu gyda ni
Mae Canolfan Gelfyddydau y Memo yn weithredol o ran cyd-gynhyrchu, creu cysylltiadau a phartneru mewn prosiectau untro a hirdymor ac yn gweithio gyda nifer o grwpiau, cwmnïau ac unigolion.
Ein nod bob amser yw cychwyn sgyrsiau creadigol gyda phobl greadigol ac artistiaid er mwyn datblygu cysylltiadau sy’n arwain at breswyliadau a datblygiad gwaith newydd.
Anaml y byddwn yn gwahodd artist i fanteisio ar breswyliad ar sail cynnig yn unig, hyd yn oed os bydd yn dod gyda DVD neu ddeunyddiau eraill. Rydym yn hoffi gweld gwaith artistiaid yn fyw a datblygu perthynas â nhw dros gyfnod o amser, gan wneud yn siŵr bod yr artist a’r cynhyrchydd yn gweddu’n dda i’w gilydd.
Os hoffech wneud cynnig i ni am breswyliad neu i weithio mewn partneriaeth â ni, ysgrifennwch atom gan ddweud wrthym:
Byddwn yn ystyried pob datganiad o ddiddordeb ac yn trefnu cyfarfod os byddwn ni o’r farn fod eich prosiect yn rhywbeth y gellid ei ddatblygu yma.
Darllenwch fwy yma