Please select your language:
Cymraeg
IMG 4205
Sinema Leol Y Barri
270715-002
Sain a llun amgylchynol Dolby 4k
generic pic 2
Darllediadau Byw o’r Llwyfan i’r Sgrin
dementia
Sesiynau Sgrinio Digynnwrf ac Ystyriol o Ddementia
Bedwas
Digwyddiadau addas i Deuluoedd

Wrth eich bodd â ffilm? Ninnau hefyd! #BarryCinema 

Rydym yn byw mewn byd lle mae’r dewis yn ddiddiwedd drwy’r amser pan ddaw i ddewis ein hadloniant. Yn yr oes ddigidol hon, nid oes angen i ni adael ein soffa ein hunain hyd yn oed, i gael dewis o gannoedd o wahanol opsiynau. Ond rydym yn dal i gredu nad oes dim yn well na’r profiad o wylio ffilm ar y sgrin fawr.

Rydym yn sgrinio ffilmiau poblogaidd, ffefrynnau teuluol a ffilmiau arbenigol drwy’r flwyddyn yn ein Sinema Ddigidol Sony 4K ardderchog (pedair gwaith yn fwy manwl na manylder uwch (HD) llawn) gyda sain amgylchynol wych Dolby.

Gofynnir i ni yn aml pam nad ydym yn dangos ffilmiau ar yr un pryd â’r sinemâu aml-sgrin mwy. Yr ateb yw bod dosbarthwyr yn aml yn mynnu archeb ofynnol o 7 diwrnod yn ystod yr ychydig wythnosau cyntaf, ac mae hyn yn rhywbeth na allwn ei wneud fel rheol gan fod ein sinema yn rhannu’r dyddiadur archebu gyda’n theatr.

Felly, gan mai dim ond un sgrin sydd yn ein canolfan, ein nod yw sgrinio ffilmiau newydd o fewn 3 wythnos iddynt gael eu rhyddhau yn genedlaethol.

Y newyddion gwych yw ein bod wedi cynnal astudiaeth o ymarferoldeb ac wedi cael sicrwydd bod y lle a’r capasiti gennym i osod ail sgrin yn y ganolfan gydag ymgyrch codi arian lwyddiannus, felly dyma un o’r prosiectau yr ydym yn gweithio arnynt, ac ar ôl ei gwblhau, byddwn yn gallu cynnig sinema 4k ddyddiol yn y Barri.

Sut i roi

Gallwch roi wrth brynu tocynnau ar ein gwefan. Gofalwch eich bod yn dewis ‘Cefnogi’r Memo’ wrth i chi brynu. Peidiwch ag anghofio gwneud Rhodd Cymorth o’ch rhodd – gallwch adhawlio’r dreth, gan ychwanegu 25c at bob punt yr ydych yn ei rhoi, a gwneud i’ch rhodd fynd ymhellach.

Noddwch ein gwaith o osod Ail Sgrin Sinema a fydd yn dod â sinema ddyddiol i’r Memo

Gyda’ch cefnogaeth barhaus, rydym yn gweithio’n galed i sicrhau y bydd y Memo yn dal i fod yno i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau.

Diolch am eich cefnogaeth!

Rydym hefyd yn cynnig digwyddiadau sgrinio ffilmiau digynnwrf a hygyrch bob mis, yn cynnal sesiynau sgrinio ffilmiau i godi arian ac yn dangos ffefrynnau teuluol fforddiadwy yn ystod gwyliau’r ysgol.

Rydym yn cyflwyno darllediadau ffrydio byw Manylder Uwch yn syth i’r Memo o’r Theatr Genedlaethol, y Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden, y Cwmni Shakespeare Brenhinol a rhai cynyrchiadau o’r West End. Caiff pob tocyn ei werthu ar gyfer y cynyrchiadau hyn yn aml, a’r unig ffordd o’u gweld nhw yw ar y Sgrin Fawr. Sesiynau sgrinio sy’n cael eu recordio yn fyw ond yn cael eu sgrinio yn ddiweddarach (heb eu golygu, wedi’u sgrinio fel pe byddent yn fyw) yw sesiynau sgrinio ‘Encore’. Rydym yn cynnig ffordd wych, gyfleus a fforddiadwy o weld y cynyrchiadau theatr byw gorau sydd ar gael – drwy wylio dramâu mewn amgylchedd theatr traddodiadol!

Prisiau tocynnau sinema (diweddarwyd Chwefror 2019)

Tocynnau ymlaen llaw: £7 llawn, £5 consesiynau, £4 i’r rhai dan 16 oed

Tocynnau sy’n cael eu prynu ar y drws: £7.50 llawn, £5.50 consesiynau, £4.50 i’r rhai dan 16 oed

Derbynnir Cardiau Hynt – mae gan ddeiliaid cerdyn Hynt yr hawl i gael tocyn am ddim i gynorthwy-ydd personol neu ofalwr

Gellir cyfnewid 2 x Credyd Amser am un tocyn sinema i ffilmiau dethol ar gyfer y teulu

Sesiynau Sgrinio Ystyriol o Ddementia Sinematgofion: £5.00 £5.00

Ffilmiau ar gyfer y teulu:  £4 ymlaen llaw, £4.50 ar y drws

Cerdyn Teyrngarwch y Memo

Gwnewch gais am eich cerdyn Memo a dechreuwch ennill pwyntiau teyrngarwch tuag at docynnau sinema rhad ac am ddim gyda’ch cerdyn Teyrngarwch y Memo am ddim. Byddwch yn cael pwyntiau gwerth 10% o werth pob tocyn ffilm a ffrwd fyw y byddwch yn ei brynu, naill ai ar-lein neu yn y Swyddfa Docynnau. Yr amlaf y byddwch yn defnyddio eich cerdyn, y cyflymaf y byddwch yn ennill tocynnau am ddim i’ch hunan!

O bryd i’w gilydd, rydym yn cynnig prisiau tocynnau arbennig ar gyfer ffilmiau dethol – ymunwch â’n rhestr e-bost a dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.

 

cyWelsh
Left Menu Icon