Rydym wedi rhoi mesurau newydd ar waith i sicrhau diogelwch, cysur a mwynhad i’n holl ymwelwyr. Mae ein gwybodaeth ddiogelwch COVID ar gael yma.
Agorodd ein rhaglen logi ar gyfer gweithgarwch a ganiateir ym mis Medi ac ail-lansiwyd ein rhaglen sinema ym mis Tachwedd.
Er bod ein Swyddfa Docynnau a’n Derbynfa yn dal i fod ar gau i ymwelwyr ar y safle, gellir cysylltu â’n tîm drwy e-bost: neu drwy adael neges ffôn ar 01446 400111
Cadwch yn gyfredol â’n holl gynlluniau ar gyfer yr hyn sy’n digwydd yn y Memo trwy danysgrifio i’n cylchlythyr digidol, tanysgrifiwch yma
Rydym yn ddiolchgar dros ben am y cymorth parhaus yr ydym wedi ei gael gan ein holl arianwyr a darparwyr grantiau, yn enwedig Cyngor Tref y Barri, Cyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Bro Morgannwg, Canolfan Ffilm Cymru ac am yr holl negeseuon hyfryd o gefnogaeth gan ein cynulleidfaoedd a’n cymuned anhygoel.
Gyda’ch cefnogaeth chi, a thrwy weithio gyda’n gilydd, rydym yn ffyddiog y bydd pob un ohonom yn dod allan o’r argyfwng presennol hwn yn gryfach ac yn fwy cysylltiedig nag erioed.
Rydym yn elusen gofrestredig ac mae dros 65% o’n trosiant yn cael ei ennill trwy ddigwyddiadau byw, sinema, llogi ystafelloedd ac incwm y Bar Caffi.
Rhowch beth bynnag y gallwch i’n helpu i barhau’r gwaith hanfodol hwn. Neu, gallwch ein helpu trwy roi unrhyw docynnau ar gyfer digwyddiadau a ohiriwyd trwy beidio â gofyn am ad-daliad
Bydd pob ceiniog neu bunt yn cael ei defnyddio i sicrhau ein dyfodol
Donate