Please select your language:
Cymraeg

Y Barri – Creu Tonnau

Waves
Heritage Lottery Fund, Great Place Scheme : Creu Ymdeimlad o Le i’r Barri

Event: FfotoBARRIthon 

 

Mae Y Barri-Creu Tonnau yn un o bum prosiect yng Nghymru y dyfarnwyd cyllid iddo gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn cymryd rhan mewn cynllun peilot am y cyfnod 2018-2021:

Cyngor Bro Morgannwg sy’n arwain y prosiect Y Barri – Creu Tonnau programme of activities. mewn partneriaeth â Chyngor Tref y Barri a Chanolfan Gelfyddydau y Memo. Bydd tair ffrwd waith yn ffocws ar gyfer cyflwyno’r rhaglen weithgareddau Y Barri – Creu Tonnau.

Ffrwd waith 1: Partneriaethau a llywodraethu da – Bydd hyn yn cynnwys penodi Rheolwr Lle ar gyfer y Barri i arwain y gwaith o ddatblygu a gweithredu’r prosiect; a sefydlu Bwrdd Lle (wedi’i dynnu o sbectrwm eang o gymuned y lle) er mwyn cefnogi a hyrwyddo’r newidiadau angenrheidiol yn ystod y broses hon a sicrhau bod y gwaith o reoli a datblygu’r lle’n barhaus yn cael ei yrru ymlaen.

Ffrwd waith 2: Ymgorffori Treftadaeth a Diwylliant mewn cynlluniau a gweithgareddau hirdymor ar gyfer y Barri – Bydd hyn yn cynnwys datblygu, dylunio a chyhoeddi dwy ddogfen strategol; llyfr stori’r Barri, dogfen addysgiadol ac ysbrydoledig sy’n ymwneud â stori newydd y Barri ar gyfer rhanddeiliaid; a phecyn cymorth dylunio’r Barri i alluogi partneriaid a rhanddeiliaid i ddefnyddio’r cynnig brand yn eu gweithgareddau.

Ffrwd waith 3:  Adeiladu Cyfalaf Cymdeithasol – Bydd hyn yn canolbwyntio ar dri gweithgaredd, sef sefydlu Cronfa Gwirfoddolwyr Cymunedol; cyflwyno Prosiect Gwneud Lle Digidol; a rhaglen Marchnata ac Allgymorth. Bydd yr holl gamau uchod yn atgyfnerthu ei gilydd ac yn cyd-fynd yn gadarnhaol â’r gweithgareddau a’r canlyniadau a ddisgrifir yng nghanllawiau Cynllun Lle Arbennig Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Read more about the Heritage Lottery Fund Great Place Scheme here: https://www.hlf.org.uk/about-us/news-features/wales-great-places-receive-national-lottery-boost

 


cyWelsh
Left Menu Icon