Please select your language:
Cymraeg

Mynediad

Rydym yn hoffi bod yn hygyrch a chroesawgar i bawb ac rydym wedi ymrwymo i wneud eich ymweliad mor rhwydd a phleserus â phosibl. Rydym yn argymell eich bod yn archebu ymlaen llaw fel y gall ein staff ddarparu cymorth yn rhwydd pan fydd ei angen.

The Memo Arts Centre has a range of services to assist all customers under our Equal Access Policy. If you have any special requirements please mention it to the Box Office staff when booking tickets or email boxoffice@memoartscentre.co.uk. Alternatively contact the Duty Manager, or Front of House staff on arrival and they’ll be happy to help.

Hynt

Rydym yn aelod o Hynt, cynllun mynediad cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau ledled Cymru i wneud yn siŵr bod cynnig cyson ar gael i ymwelwyr sydd â nam neu ofyniad penodol o ran mynediad. Mae gan ddeiliaid cerdyn Hynt hawl i gael tocyn am ddim i gynorthwy-ydd personol neu ofalwr. I wirio a ydych chi, neu’r sawl yr ydych yn gofalu amdano, yn gymwys, ewch i wefan Hynt a gwnewch gais ar-lein. Neu, cewch alw yn y Swyddfa Docynnau i gael ffurflen gais.

Defnyddwyr Cadair Olwyn

Mae lleoedd parcio penodol i bobl anabl ar gael o fewn cyrraedd rhwydd i’r ganolfan. Ceir mynedfeydd lefel stryd sydd â drysau llydan, a thoiled hygyrch neillryw ar y llawr gwaelod. Mae lleoedd i gadeiriau olwyn wedi’u lleoli mewn mannau penodol yn yr Awditoriwm a’r Balconi, ond nifer gyfyngedig o’r rhain sydd ar gael. Mae’n rhaid gwneud ymholiadau a chadw lle gyda’r Swyddfa Docynnau yn uniongyrchol fel y gallwn sicrhau bod eich anghenion a’ch gofynion penodol yn cael eu bodloni.

Pobl Ddall / â Nam ar y Golwg

Croesewir cŵn gwaith / tywys ac mae fersiynau print mawr (20 Pwynt) o’r taflenni am yr atyniadau sydd ar fin dod ar gael ar gais. Gellir trefnu teithiau ‘Cyffwrdd / Ymgyfarwyddo’ ar gais.

Pobl Fyddar / â Nam ar y Clyw

Mae gan y ganolfan wasanaeth archebu ar-lein ar gyfer pob ymholiad am sioeau a llogi, a cheir gwasanaeth archebu drwy e-bost a’r post ar gyfer gofynion arbennig.

Teuluoedd

Rydym yn falch o fod yn ganolfan gelfyddydau sy’n ystyriol o deuluoedd, ac rydym yn croesawu plant a theuluoedd i’n digwyddiadau a’n sesiynau sgrinio ffilmiau. Mae gennym ni faes parcio am ddim sydd â mynediad gwastad a rhwydd i’r ganolfan a’r lifftiau. Ceir gadael pramiau yn ein Mannau Parcio Bygis (noder y gadewir y rhain ar risg y perchennog). Mae cyfleusterau newid cewynnau wedi’u lleoli ym mhob rhan o’r adeilad. Mae cadeiriau uchel a chlustogau hybu ar gael. Bydd y staff Blaen Tŷ yn hapus i ddarparu dŵr poeth ar gyfer cynhesu poteli babanod. Mae’r caffi yn cynnig amrywiaeth o ddiodydd a byrbrydau. Rydym yn hapus i chi fwydo eich babi yn y caffi neu mewn unrhyw fan priodol arall.

Unrhyw ymholiadau?

Please call us on 01446 738622 or email boxoffice@memoartscentre.co.uk and we will be happy to assist.

cyWelsh
Left Menu Icon