Mae FfotoBARRIthon yn ddigwyddiad sy’n cael ei gynnal yn y Barri ar 10 Hydref 2020. Bydd digwyddiad 12 awr i’r rhai sydd â digon o stamina a digwyddiad 6 awr sy’n addas i deuluoedd. Mae’n ddigwyddiad i bobl leol sy’n adnabod y lle’n dda ond nad ydynt efallai wedi edrych arno’n agos drwy lens, ac mae’n ddigwyddiad i ymwelwyr dreulio’r diwrnod cyfan yn archwilio ac yn dod o hyd i gyfleoedd lluniau gwych.
Bydd cymryd rhan yn ysgogi eich creadigrwydd, yn eich cael i archwilio’r Barri, yn eich cyflwyno i bobl sy’n rhannu eich diddordeb ac yn herio eich sgiliau ffotograffiaeth.
Mwy o wybodaeth: https://www.barry.cymru/visit/photobarrython/