Swyddfa Docynnau 01446 738622
Please select your language:
Cymraeg

Gwirfoddoli

Volunteer 2023 1280×800 Website

Rhannwch eich dawn yn y Memo.

Helpwch ni i wneud y Barri yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo ac i ymweld ag ef.

Ymunwch â’n cronfa wirfoddolwyr newydd i gefnogi diwylliant a threftadaeth y Barri, gyda chyfleoedd gwirfoddoli yng Nghanolfan Gelfyddydau y Memo a chyda grwpiau diwylliannol a threftadaeth eraill yn y Barri.

  • rhowch gynnig ar rywbeth newydd a chwrdd â phobl newydd
  • rhannwch eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch brwdfrydedd i helpu eraill 
  • magwch hyder ac enillwch brofiad gwaith gan roi hwb i’ch CV

Gwnewch gais nawr:

Pecyn Ymgeisio i Wirfoddolwyr 2019

Cysylltwch i ddarganfod mwy am wirfoddoli a sut i wneud cais. Mae ein cyfleoedd presennol yn cynnwys:

  • Gwirfoddolwr yn y Tîm Blaen Tŷ
  • Gwirfoddolwr yn y Grŵp Rhieni a Phlant Bach
  • Gwirfoddolwr yn y Swyddfa Docynnau a’r Dderbynfa
  • Gwirfoddolwr Tir
  • Gwirfoddolwr yn y Tîm Gweithredol

Anfonwch e-bost i volunteer@memoartscentre.co.uk neu ffoniwch ni ar 01446 400111.

Sylwer bod yn rhaid i chi fod yn 18 neu’n hŷn i wirfoddoli

The volunteer bank is funded by the National Lottery Heritage Fund’s Great Place Scheme, in partnership with Vale of Glamorgan, Barry Town Council and the Memo Arts Centre. 

cyWelsh
Left Menu Icon