Swyddfa Docynnau 01446 738622
Please select your language:
Cymraeg
Theatre 1
Theatr a Thechnegol
Ymholi
Theatr a Thechnegol
Theatr a Thechnegol
Ymholi
Sons And Daughters Boomerang Filming 001
Theatr a Thechnegol
Ymholi

Mae theatr y Memo sy’n cynnwys ein sinema ddigidol 4k yn cynnal ein rhaglen ochr yn ochr â llu o brosiectau llogi; gan gynnwys cynyrchiadau a digwyddiadau cymunedol a masnachol, yn ogystal â digwyddiadau preifat mawr hefyd.

Pan eich bod yn llogi’r Memo, rydych yn elwa nid yn unig ar gael defnyddio ein cyfleusterau a’n hadnoddau, ond rydym hefyd yn darparu ein harbenigedd i sicrhau bod eich cynhyrchiad neu ddigwyddiad yn cael ei gefnogi yn llawn gan ein tîm technegol, gweithrediadau a blaen tŷ i’ch helpu i greu digwyddiad llwyddiannus bob tro y byddwch yn ein llogi.

Cysylltwch i’n hysbysu am eich gofynion a byddwn yn darparu dyfynbris i chi [Caiff y Theatr ei llogi yn amodol ar addasrwydd y rhaglen a’r hyn sydd ar gael, ac nid yw’n lleoliad llogi sych]

YMHOLWCH NAWR  neu cysylltwch â’r Tîm Llogi ar 01446 400111


Ceir llwyfan proseniwm nad yw ar ogwydd yn y theatr, gyda chapasiti newidiol o 100 hyd at 856 o seddau, a 1300 ar gyfer cyngerdd sefyll/eistedd. 

Mae’r llwyfan yn addas ar gyfer cynyrchiadau a chyngherddau cerddoriaeth fyw bach a chanolig eu maint, a cheir wyth ystafell newid y tu ôl i’r llwyfan, lle mae digon o le i 150 o berfformwyr yn gyfforddus.

Rydym yn croesawu grwpiau theatr gymunedol ac actio amatur i’r ganolfan gelfyddydau a gallwn ddarparu gwasanaeth swyddfa docynnau proffesiynol ar gyfer eich digwyddiad. 

Mae’r lleoliad hefyd yn elwa ar nifer o ystafelloedd sy’n ddelfrydol ar gyfer cyn-gynhyrchu perfformiad ac ymarferion, ymarferion technegol, teledu a ffilmio, gan gynnwys maes parcio ar y safle ar gyfer canolfannau cynhyrchu.

Rydym yn gweithio gyda phartneriaid mewn gwahanol ffyrdd, gan gynnwys cyd-gynyrchiadau, cyd-hyrwyddo a derbyn. Darllenwch fwy yma


I wanted to say how grateful we are to you and your professional team for our film premiere event on the big screen. It was a major success and went like clockwork”  Film Premiere, Innovate Trust July 2017

cyWelsh
Left Menu Icon