O gynulliadau cysurus bach gydag ychydig ffrindiau agos, i briodasau mawr â channoedd o westeion hyfryd, rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gwneud eich diwrnod yn eithriadol mewn llawer o ffyrdd.
Mae cwrteisi a phroffesiynoldeb ein staff, gwasanaeth cynllunio digwyddiad llawn, dewis o ystafell a hyblygrwydd o ran gofynion bwyta ac adloniant, yn sicrhau bod eich anghenion unigol yn cael eu diwallu.
Mae ein bariau yn gwerthu detholiad o winoedd a diodydd derbyniad i gyd-fynd â’ch chwaeth a’ch cyllideb. Gallwn helpu i ddatrys unrhyw ofynion unigryw eraill sydd gennych, gan eich gadael yn rhydd i fwynhau eich diwrnod arbennig.
Mae’r Memo yn cynnig pecynnau ar gyfer gwleddoedd priodas a digwyddiadau achlysur arbennig. Cysylltwch i’n hysbysu am eich gofynion a gallwn argymell ystafell a chynnig dyfynbris.
neu cysylltwch â’r Tîm Llogi ar 01446 400111
“Thank you and your team for the wonderful service you have provided for us – from initial enquiries to the actual event, you have been so professional and so accommodating – I can’t praise you highly enough. The room set up, the drinks on arrival, the bar staff and the venue staff were so helpful and worked so hard for us on the night. All of our guests had a fabulous time, and for many it was their first visit to the Memo, and they thought the building was beautiful and very well kept” Birthday Party