A wyddech chi fod pob ceiniog a enillir yn y Memo yn mynd yn ôl i mewn i’r sefydliad, trwy gynnal a gwella ein cyfleusterau a’n gwasanaethau gan wneud profiad a mwynhad ein cwsmeriaid yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud?
Os gallwch chi chwarae rhan yn ein datblygiad a’n prosiectau trwy roi pa bynnag gymorth yr ydych yn teimlo y gallwch, ni waeth pa mor fach, gallwn eich sicrhau y bydd pob rhodd yn gwneud gwahaniaeth.
Mae llawer o ffyrdd eraill ar gael i chi ein cynorthwyo i wneud ein gwaith.
Gallwch ein helpu i barhau i ddod â’r gorau o feysydd sinema, digwyddiadau byw a chyfranogiad i’r ardal trwy…
Gallwch hefyd wneud rhodd wrth brynu tocynnau ar ein gwefan.
Nid ydym yn codi unrhyw ffioedd archebu pan fyddwch yn archebu eich tocynnau gyda ni. Felly, beth am adael rhodd wirfoddol. Bydd eich cyfraniad hanfodol yn ein helpu i barhau i ddarparu sinema a digwyddiadau byw o safon uchel yn ein cymuned leol.
Gofalwch eich bod yn dewis Cefnogi Datblygiad y Memo wrth brynu. Cofiwch wneud Rhodd Cymorth gyda’ch rhodd!
Cefnogi ein gwaith o osod Ail Sgrin Sinema a fydd yn dod â sinema ddyddiol i’r Memo
Gyda’ch cefnogaeth barhaus, rydym yn gweithio’n galed i sicrhau y bydd y Memo yn dal i fod yma i genedlaethau’r dyfodol ei mwynhau.
Diolch am eich cefnogaeth!