Please select your language:
Cymraeg

Tripiau Ysgolion i’r Theatr a’r Sinema

Ydych chi’n chwilio am ddiwrnod allan arbennig iawn i chi a’ch disgyblion? Siaradwch â ni am gynnal tripau unigryw a fforddiadwy i Sinema’r Memo. 

A wyddech chi fod gan y Memo daflunydd Digidol Sony 4K (pedair gwaith yn fwy manwl na manylder uwch (HD) llawn) â sain amgylchynol wych Dolby, sgrin sinema enfawr a lle i hyd at 550!

Dewiswch o ffilmiau poblogaidd diweddar a chlasuron. Mae gennym ddetholiad o ddyddiadau ac amseroedd ar gael.

Gallwn gynorthwyo school PTA with Cymdeithas Rhieni ac Athrawon eich ysgol gyda nosweithiau ffilm i godi arian – os hoffech drefnu i ddangos ffilm yn y sinema i godi arian, cysylltwch â ni a gofyn sut y gallwn helpu i gynorthwyo gweithgareddau codi arian eich ysgol.

Tripiau i’r Theatr

Mae’r Memo yn cynnig tripiau fforddiadwy i’r theatr ar gyfer ysgolion

Mae cyllid gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gael i ariannu tripiau ysgol i’r theatr.

Os hoffech gael gwybodaeth am gymorth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru i drefnu trip i’r theatr gan “Go See”, darllenwch yma

Gŵyl INTO Film

Gŵyl Into Film yw digwyddiad ffilm ac addysg am ddim mwyaf y byd i bob ysgol a pherson ifanc 5 – 19 oed ledled y DU ac rydym yn falch o fod yn sinema sy’n cymryd rhan!

Mae Gŵyl Into Film yn cynorthwyo athrawon i ddarparu’r cwricwlwm, ar draws meysydd pwnc, mewn ffordd ddynamig a difyr, ac mae’n cynnig profiadau bywyd ehangach i bob person ifanc a’r cyfle i ymgolli eu hunain yn swyn y sinema.

cyWelsh
Left Menu Icon