Please select your language:
Cymraeg

Sinema Digynnwrf

P1200308
Sinema Digynnwrf

Cinema goers buying tickets to a relaxed screening

P1200328
Sinema Digynnwrf

Service users from Innovate Trust attending a film screening

Ym mis Hydref 2016, lansiwyd clwb ffilm newydd cyffrous gan Ganolfan Gelfyddydau y Memo, gan weithio mewn partneriaeth ag Innovate Trust a Chanolfan Ffilm Cymru,.

Cynigiodd Cine-Venture gyfle i’w gynulleidfa fwynhau’r ffilmiau poblogaidd ac arbenigol diweddaraf, gyda sesiwn gyfarfod cyn ac ar ôl y ffilmiau i drafod a beirniadu’r ffilmiau a mwynhau gweithgaredd cymdeithasol newydd, yn cefnogi unigolion gyda’u gofalwyr i fod yn fynychwyr sinema annibynnol.

Dyluniwyd ein sesiynau sgrinio ffilmiau digynnwrf yn arbennig ar gyfer croesawu i’r sinema pobl ag Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth, anhwylderau synhwyraidd neu gyfathrebu, anableddau dysgu neu unrhyw un a fyddai’n elwa ar amgylchedd digynnwrf.

Roedd Cine-Venture yn cynnwys 1 sesiwn sgrinio y mis, a oedd yn cynnwys ffilmiau poblogaidd, clasuron a ffilmiau arbenigol. Darparodd sesiynau sgrinio newydd Cine-Venture fan cyrraedd gyda fforwm clwb cyn-gwylio, ac roedd y tocynnau yn cynnwys diod, popgorn a nodyn arbennig am y ffilm.

Beth sy’n gwneud y sesiynau sgrinio yn ddigynnwrf?

Mae awyrgylch llai ffurfiol a mwy cefnogol mewn sesiynau sgrinio digynnwrf er mwyn lleihau lefelau gorbryder. Ceir agwedd oddefol at sŵn a symud ymhlith y gynulleidfa, a chaiff rhai newidiadau bach eu gwneud i’r lefelau sain gyda llai o ddeunydd hysbysebu.

Cyflwynwyd Cine-Venture mewn partneriaeth ag Innovate Trust, gyda chyllid gan Ganolfan Ffilm Cymru.

cyWelsh
Left Menu Icon