Mae ein caffi a’n bar, a leolir yn Neuadd Bedwas, wrth ochr Theatr y Brif Neuadd, ar agor i ddarparu diodydd a lluniaeth i chi, pan fydd ffilmiau yn cael eu sgrinio a sioeau byw yn cael eu cynnal,. Maent yn agor 45 munud cyn yr amseroedd a hysbysebwyd ar gyfer cychwyn sioeau. Ar gyfer sioeau byw, mae’r bar ar agor yn ystod yr egwyl a chewch archebu eich diodydd ar gyfer yr egwyl ymlaen llaw pan fyddwch yn cyrraedd.
Os ydych chi’n llogi’r ganolfan ar gyfer digwyddiad neu barti, mae gennym ni nifer o gysylltiadau â sefydliadau arlwyo trydydd parti. Ewch i’n tudalennau Llogi i weld ein bwydlenni enghreifftiol. Gallwn gynnig dewisiadau bwydlen wedi’u teilwra ar gyfer eich digwyddiad chi.
Ceir bar â thrwydded lawn yn Neuadd Bedwas ac yn Ystafell Morgannwg