Swyddfa Docynnau 01446 738622
Please select your language:
Cymraeg

Talebau Rhodd

Rhowch wên ar wyneb rhywun drwy roi’r rhodd o brofiad sinema neu theatr fyw

Mae ein talebau rhodd yn berffaith ar gyfer unrhyw achlysur: pen-blwydd, pen-blwydd priodas, priodas neu anrheg Nadolig neu i ddweud diolch wrth ffrind.

Gellir defnyddio ein Talebau Rhodd i brynu tocynnau ffilm, darllediadau a digwyddiadau byw yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Memo.

 

Prynwch Dalebau Rhodd nawr   neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau

 

Darllenwch Delerau ac Amodau ein Talebau Rhodd cyn prynu.

  • Ceir cyfnewid talebau rhodd i brynu tocynnau drwy ein Swyddfa Docynnau a’n gwefan yn unig.
  • Ceir defnyddio ein talebau rhodd i brynu tocynnau drwy’r wefan, yn bersonol a thros y ffôn gan ddyfynnu’r rhif unigryw sydd wedi’i argraffu ar y daleb rodd.
  • Mae talebau rhodd yn ddilys am gyfnod o flwyddyn yn unig o’r dyddiad prynu. Wedi hyn, bydd unrhyw daleb rodd nad yw wedi cael ei defnyddio yn annilys.
  • Ni ellir ad-dalu talebau rhodd na’u cyfnewid am arian parod.
cyWelsh
Left Menu Icon