Swyddfa Docynnau 01446 738622
Please select your language:
Cymraeg

Dod o hyd i ni

Memo Arts Centre Gladstone Road, Barry, Vale of Glamorgan, CF62 8NA


View Larger Map

Parcio 

Mae gennym ein maes parcio ein hunain ar y safle sydd â 130 o leoedd, gan gynnwys lleoedd parcio dynodedig i bobl anabl. Ceir lleoedd parcio ar y stryd yn agos i’r lleoliad ar Gladstone Road a St Pauls Avenue hefyd.

Mewn Car

O’r M4 gan deithio tuag at y de-orllewin, gadewch ar Gyffordd 33 a chymerwch y ffordd ymadael 1af i’r A4234 tuag at Orllewin Caerdydd / Y Barri / Maes Awyr / Penarth. Cymerwch ffordd ymadael yr A48/A4050 tuag at Gaerdydd (Gn) / Maes Awyr Caerdydd / Y Barri. O’r gylchfan, cymerwch y 3edd ffordd ymadael i Port Rd/A4050. Dilynwch yr A4050 i Buttrills Road yn y Barri. Trowch i’r dde i Buttrills Road. O’r gylchfan, cymerwch y 3edd ffordd ymadael i Gladstone Road/A4055.

Ar y Trên

Mae’n hawdd ein cyrraedd ar y trên. Gorsafoedd y Barri (0.7 milltir) a Dociau’r Barri (0.6 milltir) yw’r agosaf a gellir ein cyrraedd mewn deg munud ar droed o’r ddwy ohonynt. Mae’r trên olaf i Gaerdydd yn gadael Dociau’r Barri am 23:15 fel rheol (gwiriwch yr amseroedd trenau swyddogol cyn gadael)

Ar y Bws

Mae bysiau o Gaerdydd a’r cyffiniau yn fynych. Ceir safle bws o fewn 30 metr i’r ganolfan (llwybrau 93, 94B, 96 a 98 Bws Caerdydd). Mae safle bws arall ychydig funudau i ffwrdd yn Swyddfeydd Dinesig y Barri lle ceir gwasanaethau bws ychwanegol (llwybrau 93, 94, 94B, 95, 96, 96A, 97, 98 a 100 Bws Caerdydd)

Ar Awyren

Dim ond 3.5 milltir yw Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd-Cymru o’r ganolfan.

cyWelsh
Left Menu Icon