Please select your language:
Cymraeg

Sinema Ystyriol o Ddementia

dementia
Sinema Ystyriol o Ddementia

Preswylwyr cartref gofal lleol yn mwynhau ffilm yn ein sinema gwbl hygyrch.

ivor-margaret-dementia
Sinema Ystyriol o Ddementia

Ivor James a’i wraig Margaret, sydd â dementia, mewn sesiwn sgrinio ystyriol o ddementia ddigynnwrf.

Mae ein rhaglen sinema ystyriol o ddementia yn cynnwys sesiynau sgrinio rheolaidd yn y prynhawn i bawb eu mwynhau.

Mae’r sesiynau sgrinio ffilmiau digynnwrf hyn wedi’u teilwra yn arbennig i bobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr a’u teuluoedd, gyda’r nod o wneud sinema yn fwy hygyrch trwy gynnig profiad cynhwysol mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.

Ymunwch â ni o 1:00pm yn ein bar caffi i gyfarfod â ffrind dros ddiod, neu i fwynhau gweithgareddau ystyriol o ddementia gyda ffrindiau newydd, cyn i’r ffilm ddechrau am 1:30pm.

Sylwadau gan rai sydd wedi bod i’r sinema ystyriol o ddementia: “Mae dementia fy ngŵr wedi ein heithrio o lawer o weithgareddau ond gyda sesiynau sgrinio ystyriol o ddementia rydym yn teimlo’n ddigon diogel i fwynhau mynd i’r sinema unwaith eto. Mae wedi rhyddhau’r ddau ohonom ni wrth i ni ymdopi gyda’r salwch hwn sy’n ynysu pobl”

Mae ein Sinema Ystyriol o Ddementia yn cynnig:

  • Staff croesawgar a chaffi
  • Lle i gyfarfod a gwneud ffrindiau newydd
  • Goleuadau wedi’u pylu, sain ar lefel is, a dim hysbysluniau rhagflas na hysbysebi
  • Lleoedd i gadair olwyn a seddau hyblyg
  • Diod boeth/oer a bisgedi am ddim gyda phob tocyn
  • Taflenni canu ar gyfer sioeau cerdd
  • Egwyl i fynd i’r tŷ bach tuag at ganol y ffilm
  • Toiledau a chyfleusterau hygyrch
  • Maes parcio am ddim ar y safle

 

Mae’r Memo yn falch o fod yn aelod o Gymuned Ystyriol o Ddementia y Barri. Mae ein staff yn Gyfeilion Dementia sydd wedi’u hyfforddi i ddeall anghenion cwsmeriaid, ac maent wrth law i gynnig cymorth yn ystod eich ymweliad.

cyWelsh
Left Menu Icon